galeri


Barbie [12A] Hamddenol & Is-Deitlau / Relaxed & Subtitled

image

DANGOSIAD HAMDDENOL GYDAG IS-DEITLAU – mi fydd yr amgylchedd wedi ei addasu i fod yn fwy ymlaciol a hygyrch. Bydd y golau a lefel sain yn cael eu addasu a bydd croeso i unrhyw un godi, symud ogwmpas a siarad/gwneud swn i fod yn fwy cyfforddus. Bydd y dangosiad hefyd yn cynnwys is-deitlau. Croeso cynnes i bawb! 

Mae Barbie a Ken yn mwynhau'r bywyd rhydd ym myd lliwgar a pherffaith Barbie Land. Fodd bynnag, pan gawn nhw'r cyfle i fynd i ymweld a'r byd go iawn, mae nhw'n prysur ddarganfod fod y ddynol ryw yn lot o hwyl, ond hefyd ac ochr beryglus iawn iddynt.

Mae’r ffilm yn dechrau’n brydlon ar yr amser a nodir. Bydd y drysau yn agor a’r hysbysebion yn dechrau 20 munud cyn amser dechrau’r ffilm. Sicrhewch eich bod yn cyrraedd Galeri gyda digon o amser (gan gysidro traffic / parcio) – mae hawl gennym wrthod mynediad i’r ffilm os yn cyrraedd yn hwyr.

Bydd pris tocynnau yn codi £2 yr un ar ddiwrnod y dangosiad (os oes tocynnau ar gael). Mae pris tocynnau yn cynnwys ffi archebu o £1.50 y tocyn.

10:00 - Dydd Sadwrn, 30 Medi Tocynnau