Mae Hear us and Hasten yn berfformiad sydd wedi ei wreiddio'n ddwfn yng nghynefinoedd y perfformwyr, sef tirweddau Môr y Gogledd a Gogledd Cymru.
Wedi ei chreu ar y cyd rhwng dwy o storiwyr ifanc mwyaf addawol Prydain, Ffion Phillips ac Ailsa Dixon, mae'r sioe yn ceisio gwneud synnwyr o fregusrwydd yr hinsawdd a'r naratifau hen a newydd sydd yn taflu cyrff merched ifanc i grafangau a dannedd bwystfilod. Ond yn fwyaf pwysig, mae'r sioe yn ddathliad o fod yn fyw, yn y foment hon. Fel mae Ffion ac Ailsa yn dweud - mae hi'n driongl; chwedl, pobl, tirweddau, os mae'r cysylltiad rhwng unrhyw un o'r tri yn wan, rydym ni gyd yn dioddef.
Cafodd Hear Us and Hasten ei ddyfeisio gyda chymorth Village Storytelling Centre Glasgow, Tasgadh a chyfarwyddwr creadigol Shona Cowie.
Mi fydd hanner cyntaf y noson gyda storïwragedd eraill sydd yn perfformio yng Ngŵyl Chwedleua Ryngwladol Cymru 'Beyond the Border' yn ddiweddarach ym mis Gorffennaf: Fiona Collins a Gillian Brownson.