galeri


TONIC Dylan a Neil

image

Estynwn groeso mawr yn ol i'r Galeri i'r ddeuawd canu gwlad o'r Felinheli, Dylan a Neil. 


Bydd y cyngerdd yn sicr o fod yn llawn caneuon adnabyddus ac ambell i stori hwyliog gan y perfformwyr profiadol yma. 

Mae cyngherddau TONIC yn rai hamddenol eu naws ac yn hygyrch ac agored i bawb. 

Cyngerdd drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Bydd paned i ddilyn (am ddim gyda’ch tocyn).

14:30 - Dydd Iau, 21 Medi Tocynnau