galeri


First Three Drops

image

Cwmni Theatr Taking Flight yn cyflwyno:


Y Tri Diferyn Cyntaf 

11:30 Perfformiad Cymraeg
13:30 Perfformiad Saesneg

Cyfarwyddwyd ac ysgrifennwyd gan Elise Davison. Dyluniwyd gan Ruth Stringer. 

Mae problem gan Ceridwen y wrach. Problem fawr sy’n galw am ddatrysiad mawr. Dim ond un peth wnaiff y tro… mae angen hud cryf iawn arni. Wrth I Ceridwen adael Gwion, ffrind gorau ei mab, gyda’r dasg o droi’r TCP (Trwyth Cryf Pwysig) iddi am flwyddyn gyfan a diwrnod, all hi ddim dychmygu’r llanast fydd yn dilyn. 

Mae First Three Drops yn stori ddoniol a hudolus, llawn bodau’n newid siâp, dewiniaeth di-ri, champau gwirion ac anturiaethau lu, gydag Iaith Arwyddion Prydain a disgrifiadau sain integredig. Mae’n seiliedig ar chwedl Taliesin, gan Elis Gruffydd. 

Mae First Three Drops yn addas ar gyfer rhai bach rhwng 2 a 9 oed a’u teuluoedd. 

Wedi’i gyflwyno yn wreiddiol mewn cyd-gynhyrchiad gyda Theatrau RhCT.

11:30 - Dydd Sadwrn, 1 Gorffennaf Tocynnau

13:30 - Dydd Sadwrn, 1 Gorffennaf Tocynnau