galeri


Grease [PG] : Dementia gyfeillgar/friendly

image

Mae Sandy Olsson a Danny Zuko yn disgyn mewn cariad dros y gwyliau haf. Mewn cyd-ddigwyddiad llwyr maent yn darganfod eu bod yn mynychu'r un ysgol uwchradd, ond a fydd modd ail-gynnau fflam eu perthynas? Clasur o sioe gerdd yn cynnwys caneuon bythgofiadwy, a pherfformiadau gwych. Croeso i'r 50'au!

Mi fydd y ffilm yn dechrau’n brydlon ar amser. Bydd y drysau yn agor 20 munud cyn amser dechrau’r ffilm. 

Dangosiad hamddenol – yn addas ar gyfer unigolion sydd yn byw hefo dementia a’u teuluoedd. Bydd lefel y sain fymryn yn is na’r arfer a bydd ychydig o olau ymlaen yn y theatr drwy gydol y ffilm.

11:00 - Dydd Mercher, 12 Gorffennaf Tocynnau


Trêl