Clwb Creu BALCHDER Gogledd Cymru / Clwb Creu PRIDE North Wales
Gweithdy Celf ar gyfer pob oedran er mwyn dathlu BALCHDER Gogledd Cymru!
Mae Balchder Gogledd Cymru yn ymwneud ag arddangos ein cymuned amrywiol wych gan oresgyn rhagfarn, casineb, lleihau unigedd a dangos i aelodau o'r gymuned LHDTC+ nad ydynt ar eu pen eu hunain.
Mae’r ŵyl yn dod â phobl at ei gilydd, yn enwedig y rhai a all deimlo’n ynysig mewn ardaloedd gwledig, gan greu amgylchedd cefnogol a chroesawgar.
Awgrymwn bod plant yn gwisgo dillad hen / cyfforddus. Darperir yr holl ddeunyddiau.
Cynhelir y gweithdy yn ddwy-ieithog | capasiti cyfyngiedig | Hyd gweithdy: 2 awr.
Bydd rhaid i rieni/gwarcheidwaid fod gyda phlant 6 oed ac iau
Rydym yn gweithio i sicrhau bod ein digwyddiadau yn hygyrch i bawb ac rydym wedi ymrwymo i geisio darparu ar gyfer unrhyw addasiadau rhesymol. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad, anfonwch e-bost at ffion.evans@galericaernarfon.com cyn y digwyddiad a byddwn yn gallu trafod sut y gallwn eich cefnogi.
10:00 -
Dydd Sadwrn, 24 Mehefin
Tocynnau
14:30 -
Dydd Sadwrn, 24 Mehefin
Tocynnau