galeri


André Rieu - Love is All Around

image

Cyngerdd 2023 André Rieu - Love is All Around 


Mae brenin y waltz yn eich gwahodd chi i'w gyngerdd sinematig newydd 'Love is All Around' wedi ei ffilmio yn ei dref enedigol - Maastricht. 

Unwaith yn rhagor, bydd André Rieu yn llwyfannu ei sioe haf flynyddol yn sgwâr eiconig Vrithof yn yr Iseldiroedd. Mae'r cyngerdd yn gaddo bod yn wledd hudolus o gerddoriaeth, caneuon wedi'i dewis yn arbennig gan André, yn ymestyn o fyd y clasuron i 'sing alongs' fwy adnabyddus.

Ynghyd a'r Johan Strauss Opera, bydd cor gospel a gwesteion arbennig iawn yn ymddangos ar y noson.

Dyma gyngerdd unigryw, yn llawn cerddoriaeth, dawns, cariad a hapusrwydd - mewn sinemau yn unig!

19:00 - Dydd Sadwrn, 26 Awst Tocynnau

14:00 - Dydd Mercher, 30 Awst Tocynnau