Sbarc - Gweithdy Actio a Chreu Theatr
Gweithdy llawn hwyl yn rhoi’r cyfle i arbrofi a chwarae drwy actio a pherfformio mewn awyrgylch sy'n hyrwyddo llesiant, yn nwylo meistrolgar seren Les Miserables a Wales of the West End, Mared Williams.
Blwyddyn 3-6: 10:00 – 11:30
Blwyddyn 7-9: 13:00 – 14:30
Bydd y gweithdy yma yn yr iaith Gymraeg.
Mae Sbarc yn cael ei ailwampio! Prosiect celfyddydol i blant a phobl ifanc yw Sbarc, roedd yn gweithredu rhwng 2000 a 2020, ond wedi cael hoe bach ers hynny. Y bwriad yw cynnig rhaglen newydd sbon o weithgareddau, gweithdai, a phrofiadau celfyddydol amrywiol drwy gydol y flwyddyn i ddatblygu sgiliau a chynnig cyfleoedd creadigol plant a phobl ifanc yr ardal drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r gweithdy yma yn rhan o’r sesiynau blasu i’n arwain ac i brofi beth mae plant a phobl ifanc y gogledd-orllewin eisiau gwneud, a dangos beth sy’n bosib gyda Sbarc.