galeri


Sbarc – Gweithdy Dawnsio Stryd

image

Gweithdy egnïol wedi’i arwain gan y ddawnswraig a choreograffwraig Eirian Foster, ble wnewch ddysgu sgiliau a symudiadau sylfaenol dawnsio stryd.

Addas ar gyfer dechreuwyr.

Bydd y gweithdy yma yn yr iaith Gymraeg.

Blwyddyn 2-4: 10:00 - 12:00 
Blwyddyn 5-6: 13:00 - 15:00

Mae Sbarc yn cael ei ailwampio! Prosiect celfyddydol i blant a phobl ifanc yw Sbarc, roedd yn gweithredu rhwng 2000 a 2020, ond wedi cael hoe bach ers hynny. Y bwriad yw cynnig rhaglen newydd sbon o weithgareddau, gweithdai, a phrofiadau celfyddydol amrywiol drwy gydol y flwyddyn i ddatblygu sgiliau a chynnig cyfleoedd creadigol plant a phobl ifanc yr ardal drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r gweithdy yma yn rhan o’r sesiynau blasu i’n arwain ac i brofi beth mae plant a phobl ifanc y gogledd-orllewin eisiau gwneud, a dangos beth sy’n bosib gyda Sbarc.

10:00 - Dydd Iau, 1 Mehefin Tocynnau

13:00 - Dydd Iau, 1 Mehefin Tocynnau