Sbarc - Gweithdy Actio i Gamera
Dewch i ddangos eich doniau actio a dysgu sut i’w addasu’n arbennig ar gyfer actio teledu a ffilm efo’r actor Iwan Fôn (Rownd a Rownd).
Bydd y gweithdy yma yn yr iaith Gymraeg.
Blwyddyn 4-6: 10:00 - 12:00
Blwyddyn 7-9: 13:00 - 15:00
Blwyddyn 10-13: 15:00 - 17:00
Mae Sbarc yn cael ei ailwampio! Prosiect celfyddydol i blant a phobl ifanc yw Sbarc, roedd yn gweithredu rhwng 2000 a 2020, ond wedi cael hoe bach ers hynny. Y bwriad yw cynnig rhaglen newydd sbon o weithgareddau, gweithdai, a phrofiadau celfyddydol amrywiol drwy gydol y flwyddyn i ddatblygu sgiliau a chynnig cyfleoedd creadigol plant a phobl ifanc yr ardal drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r gweithdy yma yn rhan o’r sesiynau blasu i’n arwain ac i brofi beth mae plant a phobl ifanc y gogledd-orllewin eisiau gwneud, a dangos beth sy’n bosib gyda Sbarc.