NT LIVE: Fleabag [15]
Ysgrifennwyd a pherfformiwyd gan Phoebe Waller-Bridge (Fleabag, Killing Eve)
Cyfarwyddwyd gan Vicky Jones
Yn dilyn rhediad hynod lwyddiannus yn y West End, a dangosiadau byw mewn sinemâu ar hyd a lled y byd – dyma gyfle arall i fwynhau’r cynhyrchiad arbennig iawn yma…
Sioe un-fenyw ddoniol a chlodwiw a ysbrydolodd y gyfres deledu boblogaidd Fleabag (BBC). Dyma olwg bywiog a gwallgof ar sut mae ‘rhyw fath’ o ddynes yn byw ei ‘rhyw fath’ o fywyd.
Efallai ei bod yn ymddangos yn orchwantus, heb ffiltr emosiynol ac yn llawn hunan-obsesiwn, ond mae Fleabag yn brwydro llawer mwy dan yr wyneb. Dan straen gyda’i theulu a’i ffrindiau, a’i chaffi moch cwta yn dioddef yn ariannol, mae hi’n sylweddoli yn sydyn nad oes ganddi unrhyw beth i’w golli…
Ail-ddarllediad yw hwn o’r cynhyrchiad gwreiddiol o 2019. Cyflwynwyd gan DryWrite, Soho Theatre ac Annapurna Theatre.