galeri


Marcel The Shell With Shoes On [PG] IS-DEITLAU | SUBTITLED

image

DANGOSIAD GYDAG IS-DEITLAU


Molwsg annwyl sy’n byw gyda’i nain, Connie, yw Marcel - yr unig drigolion yn eu tref ar ôl i bawb ddiflannu yn sydyn.

Pan mae gwneuthurwr ffilmiau dogfen yn dod o hyd iddyn nhw yn annibendod ei AirBnb ac yn creu ffilm amdanyn nhw, mae Marcel yn cipio calonnau miliynau o bobl ledled y byd, ond daw hyn â pheryglon annisgwyl ymysg y gobaith o ddarganfod ei deulu coll.

Ffilm oedd ar restr fer yng nghategori ffilm animeiddiedig yng ngwobrau’r Oscars 2023.

Mae’r ffilm yn dechrau’n brydlon ar yr amser a nodir. Bydd y drysau yn agor a’r hysbysebion yn dechrau 20 munud cyn amser dechrau’r ffilm. Sicrhewch eich bod yn cyrraedd Galeri gyda digon o amser (gan gysidro traffic / parcio) – mae hawl gennym wrthod myneiad i’r ffilm os yn cyrraedd yn hwyr.

Bydd pris tocynnau yn codi £2 yr un ar ddiwrnod y dangosiad (os oes tocynnau ar gael). Mae pris tocynnau yn cynnwys ffi archebu o £1.50 y tocyn.

18:30 - Dydd Llun, 3 Ebrill Tocynnau


Trêl