TREE
Mae heddiw’n ddiwrnod argyfyngus. Mewn cwta awr, fe fydd awdurdod lleol tref fechan yng Nghymru yn penderfynu ar dynged coeden dderwen hynafol. A hithau wedi mynd i’r pen, mae ymgyrchydd hinsawdd yn herwgipio’r cynghorydd lleol, ond mae pethau’n mynd braidd o chwith...
Comedi ddwyieithog (yn Gymraeg a Saesneg) am yr amgylchedd yw ‘Tree’. Mae wedi’i chynhyrchu gan Triongl, y cwmni o Gaerdydd sy’n arbenigo mewn creu dramâu newydd am faterion cyfoes, a hynny drwy ddeialog ffraeth, comedi gorfforol a thipyn go lew o ing. Mae ‘Tree’ yn ddrama feddylgar am gymhlethdodau ymgyrchu dros yr hinsawdd, ac mae’n gofyn sut y gallwn ni achub ein cymunedau yn ogystal â'r blaned.
Canllaw oed 9+