galeri


The Super Mario Bros Movie [PG] HAMDDENOL & IS-DEITLAU / RELAXED & SUBTITLED

image

DANGOSIAD HAMDDENOL GYDAG IS-DEITLAU – mi fydd yr amgylchedd wedi ei addasu i fod yn fwy ymlaciol a hygyrch. Bydd y golau a lefel sain yn cael eu addasu a bydd croeso i unrhyw un godi, symud ogwmpas a siarad/gwneud swn i fod yn fwy cyfforddus. Bydd y dangosiad hefyd yn cynnwys is-deitlau. Croeso cynnes i bawb!


Ffilm newydd sbon gan Nintendo ac Illumination yn seiliedig ar fyd y Super Mario Bros…

Mae Mario, y plymiwr o Brooklyn yn teithio trwy'r Deyrnas Fadarch gyda’r Dywysoges Peach a’r madarch Toad – i geisio dod o hyd i Luigi (brawd hoffus Mario) a’i achub rhag Bowser….

Mae’r ffilm yn dechrau’n brydlon ar yr amser a nodir. Bydd y drysau yn agor a’r hysbysebion yn dechrau 20 munud cyn amser dechrau’r ffilm. Sicrhewch eich bod yn cyrraedd Galeri gyda digon o amser (gan gysidro traffic / parcio) – mae hawl gennym wrthod myneiad i’r ffilm os yn cyrraedd yn hwyr. 

Bydd pris tocynnau yn codi £2 yr un ar ddiwrnod y dangosiad (os oes tocynnau ar gael). Mae pris tocynnau yn cynnwys ffi archebu o £1.50 y tocyn.

10:00 - Dydd Sadwrn, 8 Ebrill Tocynnau

10:00 - Dydd Sadwrn, 15 Ebrill Tocynnau

10:00 - Dydd Mawrth, 18 Ebrill Tocynnau


Trêl