galeri


Shazam! Fury Of The Gods [12A] IS-DEITLAU | SUBTITLED

image

DANGOSIAD GYDAG IS-DEITLAU

Megis dechrau y mae anturiaethau Shazam!...

Mae Fury of the Gods yn parhau gyda stori Billy Batson, bachgen ifanc sydd, wrth adrodd y gair hud "SHAZAM!" yn cael ei drawsnewid i’w hunan arall fel oedolyn ac yr archarwr – Shazam.

Gyda chymorth ei frodyr a chwiorydd maeth sydd hefyd wedi troi’n archarwyr, mae Billy’n brwydro yn erbyn bygythiadau newydd a mwy sylweddol wrth iddo ddysgu sut i ddatblygu fel archarwr… ond mae’n rhaid iddo herio’r dihirod Hespera a Kalypso, merched Atlas, y titan o Roeg…

Mae’r ffilm yn dechrau’n brydlon ar yr amser a nodir. Bydd y drysau yn agor a’r hysbysebion yn dechrau 20 munud cyn amser dechrau’r ffilm. Sicrhewch eich bod yn cyrraedd Galeri gyda digon o amser (gan gysidro traffic / parcio) – mae hawl gennym wrthod myneiad i’r ffilm os yn cyrraedd yn hwyr.

Bydd pris tocynnau yn codi £2 yr un ar ddiwrnod y dangosiad (os oes tocynnau ar gael). Mae pris tocynnau yn cynnwys ffi archebu o £1.50 y tocyn.

13:15 - Dydd Iau, 30 Mawrth Tocynnau


Trêl