Darkside: Everyone You Meet Tour 2023
Mae Darkside : The Pink Floyd Show yn dychwelyd i Galeri am ddwy noson eto eleni fel rhan o’u taith diweddaraf.
Yn un o fandiau teyrnged mwyaf poblogaidd Pink Floyd sydd yn teithio ers 18 mlynedd - dyma ddwy noson arbennig iawn, sef:
Nos Wener | 06.10.2023 | The Dark Side of the Moon (a mwy)
Perfformiad o’r albwm Dark Side of the Moon ar flwyddyn yr albwm yn 50 oed!
Nos Sadwrn | 07.10.22 | O Piper at the Gates i The Division Bell
Casgliad o’r clasuron dros y blynyddoedd sydd yn cynnwys caneuon o’u albwm cyntaf un – Piper at the Gates (1967) hyd at yr albwm ddiwethaf - The Division Bell (1994).
Cyfle unigryw felly i fwynhau cerddoriaeth seicidelig a roc blaengar y band Pink Floyd. Y gantores anhygoel Cariss Auburn fydd yn perfformio rhan Clare Torry ar y ddwy noson.
AR GYFER FFANS FLOYD, GAN FFANS FLOYD – mynnwch eich tocyn!
www.darksidefloydshow.com