What’s Love Got to Do with It? [12A] IS-DEITLAU/SUBTITLED
DANGOSIAD GYDAG IS-DEITLAU
Ffilm gomedi rhamant sydd yn dilyn taith Zoe - gwneuthurwr ffilmiau dogfen sydd yn treulio oriau ar apiau detio i chwilio am ddyn, ond sydd wastad yn cyfarfod y dynion “anghywir”.
Mae ei ffrind oes, Kazim yn dilyn llwybr gwahanol mewn bywyd i ddarganfod cariad, ac yn dilyn dymuniad ei deulu i gael priodas wedi’i drefnu ym Mhacistan.
Wrth i Zoe ddogfennu taith Kaz o Lundain i Bacistan ar gyfer ei briodas, mae’n hel meddyliau ac yn ystyried dull gwahanol o ddarganfod a syrthio mewn cariad…
Am ein canllawiau diweddaraf ac i geisio ateb eich cwestiynnau o ran eich ymweliad, ewch i galericaernarfon.com/covid19
Mae’r ffilm yn dechrau’n brydlon ar yr amser a nodir. Bydd y drysau yn agor a’r hysbysebion yn dechrau 20 munud cyn amser dechrau’r ffilm. Sicrhewch eich bod yn cyrraedd Galeri gyda digon o amser (gan gysidro traffic / parcio) – mae hawl gennym wrthod myneiad i’r ffilm os yn cyrraedd yn hwyr.
Bydd pris tocynnau yn codi £2 yr un ar ddiwrnod y dangosiad (os oes tocynnau ar gael). Mae pris tocynnau yn cynnwys ffi archebu o £1.50 y tocyn.
Trêl