Dangosiad Rhiant a Babi | Parent & Baby screening: Puss in Boots [PG]
Dangosiad arbennig i riant a babi (hyd at 18 mis oed). Pwrpas y dangosiadau misol yma (ar fore Gwener cyntaf y mis) yw i gynnig cyfle i rieni fwynhau ffilm gyda’u babi heb boeni am sgrechian, bwydo na amharu ar eraill… mi fydd pawb yn yr un gwch!
Bydd y golau wedi cael ei adael ymlaen (lefel isel) a bydd y sain wedi cael ei droi lawr fwy nag arfer i greu awyrgylch fwy cartrefol i’r babis. Bydd angen parcio pramiau y tuallan i’r sgrîn a gellir mynd nol a mlaen fel sydd angen.
Ffilm mis Chwefror: PUSS IN BOOTS: THE LAST WISH [PG]
Pris tocyn: £6 (fesul oedolyn). **caniateir hyd at 4 oedolyn gyda pob babi (os ydi mam a dad, nain a taid ayb eisiau dod hynny yw)
Am ein canllawiau diweddaraf ac i geisio ateb eich cwestiynnau o ran eich ymweliad, ewch i galericaernarfon.com/covid19
Mae’r ffilm yn dechrau’n brydlon ar yr amser a nodir. Bydd y drysau yn agor 20 munud cyn amser dechrau’r ffilm.
10:00 -
Dydd Gwener, 3 Chwefror
Tocynnau
Trêl