galeri


NT Live: Best of Enemies [15]

image

Drama newydd gan James Graham sydd wedi’i ysbrydoli gan y ffilm ddogfen gan Morgan Neville a Robert Gordon.

David Harewood a Zachary Quinto sydd yn perfformio rhannau’r prif gymeriadau yn y ddrama gyffrous a gwobrwyedig  sydd yn canolbwyntio ar ffrae rhwng dau wleidydd…

Unol Daleithiau America, 1968 – wrth i ddau frwydro am arlywyddiaeth y wlad, mae dadl rhwng dau wleidydd arall yn tynnu sylw – y ceidwadwr William F. Buckley a’r rhyddfrydwr Gore Vidal.

Yn ystod cyfweliad deledu, mae dadl danbaid rhwng y ddau – y nail gyda barn a chrediniaeth hollol wahanol i’r llall. Dadl arweiniodd at bennod newydd mewn gwleidyddiaeth yn America a drawsnewidiodd y ffordd mae newyddion ar y teledu yn cael ei gyflwyno…

Wedi ei ffilmio'n fyw yn y West End, Llundain. Yn cyfarwyddo - Jeremy Herrin (All My Sons)

19:00 - Dydd Gwener, 5 Mai Tocynnau