Cyngerdd Santes Dwynwen
Cariad. Mae’n un o emosiynau mwyaf pwerus y bod dynol sy’n ein llenwi â chyffro a hapusrwydd wrth i ni ei brofi, ac yn ein tristau a’n llorio pan fyddwn yn ei golli.
Mewn byd lle gwelwn drychinebau ac atgasedd o bedwar ban byd ar y newyddion dyddiol, mae hi mor bwysig i ni gofleidio a dathlu cariad ar bob cyfle.
Ymunwch â ni mewn cyngerdd arbennig yng nghwmni ein canwr preswyl – Rhys Meirion, ein pianydd preswyl - Llŷr Williams a’u gwestai arbennig - y soprano Gwawr Edwards, mewn noson o gerddoriaeth gariadus wrth arwain at ddydd Santes Dwynwen.