Met Opera Live: Die Zauberflöte (Mozart)
Mae un o weithiau mwyaf poblogaidd yr opera yn cael ei lwyfannu o'r newydd gan y Met am y tro cyntaf ers 19 mlynedd - gweledigaeth ddisglair gan y cyfarwyddwr enwog o Loegr, Simon McBurney, sydd “y cynhyrchiad gorau i mi ei weld erioed o opera Mozart” yn ôl The Wall Street Journal.
Nathalie Stutzmann sy’n arwain Cerddorfa’r Met, ac mae’r llawr wedi’i godi er mwyn i’r gynulleidfa weld y cerddorion ac er mwyn gallu rhyngweithio â’r cast. Yn ei lwyfaniad cyntaf gyda'r Met, mae McBurney yn cyflwyno campwaith theatrig, llawn tafluniadau, effeithiau sain ac acrobateg i gyd-fynd â’r wledd i’r llygaid a’r ddrama yn chwedl Mozart.
Mae’r cast gwych yn cynnwys y soprano, Erin Morley, fel Pamina; y tenor, Lawrence Brownlee, fel Tamino; y bariton, Thomas Oliemans, yn ei berfformiad cyntaf gyda’r Met fel Papageno; y soprano, Kathryn Lewek, fel Brenhines y Nos, a’r baswr, Stephen Milling, fel Sarastro.
Darllediad byw o’r Metropolitan Opera (Efrog Newydd). Perfformir yn Almaeneg gydag is-deitlau Saesneg.
Tocyn tymor (10 darllediad byw) ar gael – cyfle i arbed £20. Tocynnau tymor ar gael wrth ychwanegu pob sioe i eich cart ar-lein (bydd y disgownt yn cael ei rhoi awtomatig), o’r Swyddfa Docynnau mewn person neu drwy ffonio 01286 685 222.
Trêl