galeri


Met Opera Live: Don Giovanni (Mozart)

image

Mae’r cyfarwyddwr, Ivo van Hove, sydd wedi ennill gwobr Tony, yn cyflwyno ei ddehongliad newydd o gomedi drasig Mozart am y tro cyntaf gyda’r Met, gan osod y stori gyfarwydd am dwyll a barnedigaeth mewn tirwedd bensaernïol haniaethol a thaflu goleuni ar gorneli tywyll y stori a’r cymeriadau. 


Mae’r maestro, Nathalie Stutzmann, yn arwain cast o sêr yn y Met am y tro cyntaf, o dan arweiniad y bariton, Peter Mattei, fel y cymeriad cyfareddol Don Giovanni, ochr yn ochr â Leporello, y bas-bariton, Adam Plachetka. 

Mae’r sopranos Federica Lombardi, Ana María Martínez a Ying Fang yn driawd rhagorol fel y menywod y mae Giovanni yn ennill eu serch (Donna Anna, Donna Elvira a Zerlina), a’r tenor, Ben Bliss, yw Don Ottavio. 

Darllediad byw o’r Metropolitan Opera (Efrog Newydd). Perfformir yn Eidaleg gydag is-deitlau Saesneg.

Tocyn tymor (10 darllediad byw) ar gael – cyfle i arbed £20. Tocynnau tymor ar gael wrth ychwanegu pob sioe i eich cart ar-lein (bydd y disgownt yn cael ei rhoi awtomatig), o’r Swyddfa Docynnau mewn person neu drwy ffonio 01286 685 222.

17:55 - Dydd Sadwrn, 20 Mai Tocynnau


Trêl