galeri


Met Opera Live: Champion (Blanchard / Cristofer)

image

Mae'r cyfansoddwr Terence Blanchard, sydd wedi ennill chwe gwobr Grammy, yn cyflwyno ei opera gyntaf i’r Met ar ôl i’w gynhyrchiad Fire Shut Up in My Bones, a gafodd glod aruthrol, gael ei berfformio am y tro cyntaf gan y cwmni yn 2021. 


Y bas-bariton, Ryan Speedo Green, yw’r bocsiwr ifanc Emile Griffith, sy’n dod yn bencampwr byd a’r bas-bariton, Eric Owens, sy’n portreadu Griffith yn hŷn, sy’n llawn gofidiau am ei orffennol. Y soprano, Latonia Moore, yw Emelda Griffith, mam y bocsiwr sydd wedi ymddieithrio oddi wrtho, a’r mezzo-soprano, Stephanie Blythe, yw perchennog y bar, Kathy Hagan. 

Yannick Nézet-Séguin sy’n camu ar y podiwm ar gyfer ail première Blanchard gyda’r Met, ac mae’r cyfarwyddwr a’r coreograffydd James Robinson a Camille A. Brown yn dod at ei gilydd unwaith eto hefyd. 

Darllediad byw o’r Metropolitan Opera (Efrog Newydd). Perfformir yn Saesneg. 

Tocyn tymor (10 darllediad byw) ar gael – cyfle i arbed £20. Tocynnau tymor ar gael wrth ychwanegu pob sioe i eich cart ar-lein (bydd y disgownt yn cael ei rhoi awtomatig), o’r Swyddfa Docynnau mewn person neu drwy ffonio 01286 685 222.

17:55 - Dydd Sadwrn, 29 Ebrill Tocynnau


Trêl