galeri


Met Opera Live: Der Rosenkavalier (Strauss)

image

Mae cast anhygoel yn dod at ei gilydd ar gyfer comedi fawreddog Fiennaidd Strauss. 

Y soprano, Lise Davidsen, yw’r aristocrat Marschallin, ochr yn ochr â’r mezzo-soprano, Isabel Leonard, fel ei chariad, Octavian, a’r soprano, Erin Morley, fel Sophie, y fenyw iau hyfryd sy’n dwyn ei galon. Mae’r baswr, Günther Groissböck, yn dychwelyd fel y Barwn Ochs anfoesgar, a Markus Brück yw tad cyfoethog Sophie, Faninal. 

Mae’r maestro, Simone Young, yn camu ar bodiwm y Met i oruchwylio llwyfaniad fin-de-siècle Robert Carsen. 

Darllediad byw o’r Metropolitan Opera (Efrog Newydd). Perfformir yn Almaeneg gydag is-deitlau Saesneg. 

Tocyn tymor (10 darllediad byw) ar gael – cyfle i arbed £20. Tocynnau tymor ar gael wrth ychwanegu pob sioe i eich cart ar-lein (bydd y disgownt yn cael ei rhoi awtomatig), o’r Swyddfa Docynnau mewn person neu drwy ffonio 01286 685 222. 

17:00 - Dydd Sadwrn, 15 Ebrill Tocynnau


Trêl