galeri


Met Opera Live: Lohengrin (Wagner)

image

Mae campwaith trawiadol Wagner yn dychwelyd yn fuddugoliaethus i lwyfan y Met ar ôl 17 mlynedd. Mewn dilyniant i’w gynhyrchiad cyffrous o Parsifal, mae’r cyfarwyddwr, François Girard, yn datgelu llwyfan atmosfferig sydd unwaith eto’n dangos ei arddull weledol drawiadol a’i ddealltwriaeth ddramatig brwd o gerddoriaeth wefreiddiol Wagner. Y Cyfarwyddwr Cerdd, Yannick Nézet-Séguin, sydd ar y podiwm yn arwain cast o’r radd flaenaf o dan arweiniad y tenor, Piotr Beczała, yn y brif ran fel y marchog alarch dirgel. 


Y soprano, Tamara Wilson, yw’r dduges ddaionus Elsa, sydd wedi’i chyhuddo ar gam o lofruddiaeth, ac sy’n mynd ben-ben â’r soprano, Christine Goerke, fel y ddewines Ortrud, sy’n ceisio ei darostwng. Y baswr-bariton, Evgeny Nikitin, yw Telramund, sef gŵr Ortrud, sy’n awchu am bŵer, a’r baswr, Günther Groissböck, yw’r Brenin Heinrich. 

Darllediad byw o’r Metropolitan Opera (Efrog Newydd). Perfformir yn Almaeneg gydag is-deitlau Saesneg.

Tocyn tymor (10 darllediad byw) ar gael – cyfle i arbed £20. Tocynnau tymor ar gael wrth ychwanegu pob sioe i eich cart ar-lein (bydd y disgownt yn cael ei rhoi awtomatig), o’r Swyddfa Docynnau mewn person neu drwy ffonio 01286 685 222. //

16:00 - Dydd Sadwrn, 18 Mawrth Tocynnau


Trêl