galeri


Met Opera Live: The Hours (Puts / Pierce)

image

Bydd y soprano, Renée Fleming, yn dychwelyd i’r Met yn y cynhyrchiad première byd o The Hours (wedi’i addasu o nofel arobryn Michael Cunningham) gan y cyfansoddwr sydd wedi ennill Gwobr Pulitzer, Kevin Puts. 


Mae'r stori bwerus hon wedi’i hysbrydoli gan Mrs. Dalloway gan Virginia Woolf a daeth i enwogrwydd diolch i’r ffilm yn 2002 (a enillodd wobr Oscar) gyda Meryl Streep, Julianne Moore, a Nicole Kidman. Mae’r stori’n dilyn tair menyw o wahanol gyfnodau sydd i gyd yn mynd i’r afael â’u diafoliaid mewnol a’u rolau mewn cymdeithas. 

Mae’r perfformiad cyntaf cyffrous yn cynnwys sêr mawr, gyda’r soprano, Kelli O’Hara, a’r mezzo-soprano, Joyce DiDonato, yn ymuno â Fleming fel tair o arwresau’r opera. Phelim McDermott sy’n cyfarwyddo’r ddrama afaelgar hon, gyda Chyfarwyddwr Cerdd y Met, Yannick Nézet-Séguin ar y podiwm yn arwain sgôr ingol a phwerus Puts. Darllediad byw o’r Metropolitan Opera (Efrog Newydd). Perfformir yn Saesneg.

Tocyn tymor (10 darllediad byw) ar gael – cyfle i arbed £20. Tocynnau tymor ar gael wrth ychwanegu pob sioe i eich cart ar-lein (bydd y disgownt yn cael ei rhoi awtomatig), o’r Swyddfa Docynnau mewn person neu drwy ffonio 01286 685 222.

17:55 - Dydd Sadwrn, 10 Rhagfyr Tocynnau


Trêl