galeri


Met Opera Live: La Traviata (Verdi)

image

Bydd y soprano, Nadine Sierra, yn serennu fel Violetta - putain llys sy’n aberthu ei hun, ac un o arwresau gorau’r byd opera - yng nghynhyrchiad bywiog Michael Mayer o drasiedi Verdi. 

Y tenor, Stephen Costello, yw ei chariad hunanol, Alfredo, a’r bariton, Luca Salsi, sy’n chwarae rhan ei dad beirniadol, gyda’r maestro Daniele Callegari ar y podiwm. 

Darllediad byw o’r Metropolitan Opera (Efrog Newydd). Perfformir yn Eidaleg gydag is-deitlau Saesneg. 

Tocyn tymor (10 darllediad byw) ar gael – cyfle i arbed £20. Tocynnau tymor ar gael wrth ychwanegu pob sioe i eich cart ar-lein (bydd y disgownt yn cael ei rhoi awtomatig), o’r Swyddfa Docynnau mewn person neu drwy ffonio 01286 685 222.

16:55 - Dydd Sadwrn, 5 Tachwedd Tocynnau


Trêl