galeri


Met Opera Live: Medea (Cherubini)

image

A hithau wedi cael llwyddiant yn rhai o rolau soprano mwyaf tanbaid repertoire y Met, Sondra Radvanovsky sy’n serennu fel y swynwraig hudolus sy’n benderfynol o ddial, wrth i raglen hir-ddisgwyliedig tymor Yn Fyw Mewn HD 2022-23 gychwyn. 


Yn ymuno â Radvanovsky yn y perfformiad cyntaf erioed gan y Met o gampwaith Cherubini (nad yw’n cael ei berfformio’n aml), mae’r tenor, Matthew Polenzani, fel gŵr Argonaut Medea, Giasone; y soprano, Janai Brugger, fel Glauce, sydd hefyd yn cystadlu am ei gariad; y baswr, Michele Pertusi, fel tad Medea, Creonte, Brenin Corinth; a’r mezzo-soprano, Ekaterina Gubanova, fel Neris, cyfeilles fynwesol Medea. 

Darllediad byw o’r Metropolitan Opera (Efrog Newydd). Perfformir yn Eidaleg gydag is-deitlau Saesneg. 

Tocyn tymor (10 darllediad byw) ar gael – cyfle i arbed £20. Tocynnau tymor ar gael wrth ychwanegu pob sioe i eich cart ar-lein (bydd y disgownt yn cael ei rhoi awtomatig), o’r Swyddfa Docynnau mewn person neu drwy ffonio 01286 685 222.

17:55 - Dydd Sadwrn, 22 Hydref Tocynnau


Trêl