galeri


NT Live: The Crucible [12A TBC]

image

National Theatre Live


yn cyflwyno 

The Crucible gan Arthur Miller 
wedi’i chyfarwyddo gan Lyndsey Turner 

Mae helfa wrachod ar gychwyn yn nameg gyfareddol Arthur Miller am bŵer gydag Erin Doherty (The Crown) a Brendan Cowell (Yerma).

Wedi’u magu i gael eu gweld ond nid eu clywed, mae grŵp o ferched ifanc yn Salem yn sydyn yn gweld bod gan eu geiriau bŵer aruthrol. Wrth i awyrgylch o ofn, fendeta a chyhuddo ledaenu drwy’r gymuned, nid oes unrhyw un ddiogel rhag prawf. 

Lyndsey Turner (Hamlet) sy’n cyfarwyddo’r perfformiad newydd cyfoes yma, wedi’i ddylunio gan yr enillydd Gwobr Tony, Es Devlin (The Lehman Trilogy). Wedi’i recordio’n fyw o lwyfan Olivier yn y Theatr Genedlaethol yn Llundain.

19:00 - Dydd Iau, 26 Ionawr Tocynnau