Cyfarwyddwyd gan Peter Doran
Cynlluniwyd gan Sean Crowley
Yn cynnwys Yasemin Özdemir
Brwydr ddewr un fenyw yn erbyn y bygythiad mwyaf i’w thref a’i phobl.
Angel yw stori chwedlonol Rehana. Yn 2014, roedd teuluoedd Cwrdaidd yn ffoi Kobane er mwyn osgoi ymosodiad anochel ISIS; fe wnaeth Rehana aros i frwydro ac amddiffyn ei thref; fel saethwr, honnir iddi ladd mwy na 100 o ymladdwyr ISIS. Pan ddaeth ei stori i’r amlwg, daeth yn hynod enwog ar y rhyngrwyd ac yn symbol o wrthwynebiad yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd a chafodd ei galw’n ‘Angel Kobane’. Nawr, mae’r stori chwedlonol hon yn dod i’r llwyfan yn nrama gwobrwyedig Henry Naylor, Angel.
Sioe un fenyw yw Angel, a thrydedd stori yn nhrioleg Arabian Nightmares gan Henry Naylor.
Fe’i llwyfannwyd yn gyntaf i ganmoliaeth fawr yng Ngŵyl y Fringe Caeredin yn 2016. Ers hynny mae wedi cael ei gweld ar draws y byd i ganmoliaeth fawr gan feirniaid, gan ennill gwobrau mewn nifer o wyliau rhyngwladol.
Daw Theatr y Torch â’u cynhyrchiad eu hunain i chi, wedi’i gyfarwyddo gan Peter Doran, wedi’i gynllunio gan Sean Crowley ac yn cynnwys Yasemin Özdemir fel yr Angel eponymaidd.
Archwiliad trawiadol ydyw o stori Angel, a hynny mewn cyfnod pan fo’r themâu yn parhau’n berthnasol ac yn bresennol yn y gymdeithas fodern.
Addas ar gyfer 14+ oed
Mae’r ddrama’n cynnwys iaith gref a golygfeydd trallodus a gall wneud i rai deimlo’n anghyfforddus.