galeri


Cyfrinach y Brenin (Opra Cymru)

image

Mae gan y Brenin gyfrinach, ond mae’n gwrthod yn daer ei rhannu! 


Mae Cyfrinach y Brenin yn opera gomig at ddant y teulu cyfan. Wedi’i chyfansoddi gan y gyfansoddwraig amryddawn, Mared Emlyn, mae’r opera yn adrodd hanes y Brenin March a’i lu a holl dreialon ceisio cadw cyfrinach! 

Dyma’r opera Gymraeg gyntaf i gael ei chyfansoddi ar gyfer plant ysgolion cynradd, felly ymunwch â ni am brofiad newydd sbon!

Cynhyrchiad gan Opra Cymru.

18:30 - Dydd Sadwrn, 17 Medi Tocynnau