Jive Talkin'
Am y tro cyntaf erioed, mae band teyrnged gwreiddiol y Bee Gees yn ymuno â ni yn Galeri am un noson yn unig!
Jive Talkin’ ydi’r unig fand teyrnged i gael yr anrhydedd o berfformio efo’r grwp gwreiddiol nol yn 1997.
Fel y Bee Gees, mae Jive Talkin’ yn brosiect teuluol, gyda’r brodyr Gary a Darren Simmons yn portreadu Maurice a Barry Gibb, a Jack, mab Darren fyn perfformio rhan Robin Gibb.
Ymunwch efo ni i glywed y criw a’u band byw yn perfformio’r clasuron, yn cynnwys Tragedy, Night Fever, Massachusetts, Stayin Alive a Jive Talkin’ – mi fydd hon yn noson i’w chofio!
"The soundalike quality is quite sensational"- The Stage
"Amazing similarity to the real Bee Gees"- Wakefield Express
“Absolutely Brilliant”- Maurice Gibb
“WOW!”- Barry Gibb