galeri


NT Live: Jack Absolute Flies Again [12A TBC]

image

National Theatre Live

Jack Absolute Flies Again

Comedi newydd syfrdanol gan Richard Bean (One Man, Two Guvnors) ac Oliver Chris (Twelfth Night), yn seiliedig ar The Rivals gan Richard Brinsley Sheridan.

Ar ôl ymladd yn yr awyr, mae'r Swyddog Peilot Jack Absolute yn hedfan adref i ennill calon ei hen fflam, Lydia Languish. Yn ôl ar bridd Prydain, buan y mae ymdrechion Jack yn troi tuag at anarchiaeth pan fo’r aeres ifanc yn mynnu cael ei charu ar ei thelerau penodol iawn ei hun.

Emily Burns sy’n cyfarwyddo’r fersiwn newydd hynod ddifyr hon o The Rivals gan Sheridan. Mae’r cast yn cynnwys Caroline Quentin, Laurie Davidson, Natalie Simpson a Kelvin Fletcher.

‘One of the funniest productions in the National’s history.’Guardianon One Man, Two Guvnors  

Mi fydd y ffilm yn dechrau’n brydlon ar yr amser a nodir. Bydd y drysau yn agor 20 munud cyn amser dechrau’r ffilm.

19:00 - Dydd Iau, 6 Hydref Tocynnau