galeri


Met Opera Live: Don Carlos

image

Am y tro cyntaf yn hanes y cwmni bydd y Met yn cyflwyno fersiwn Ffrangeg pum-act gwreiddiol opera epig Verdi. Mae'r opera yn llawn cariad trychinebus ymysg y teulu brenhinol a hynny yn ystod Chwil-lys Sbaen.

Bydd Cyfarwyddwr Cerdd y Met, Yannick Nézet-Séguin, yn arwain cast amryddawn, gan gynnwys y tenor Matthew Polenzani yn y brif ran, y soprano Sonya Yoncheva a fydd yn chwarae rhan Élisabeth de Valois, a'r fezzo-soprano Elīna Garanča a fydd yn chwarae rhan Eboli. Bydd y baswr Günther Groissböck a'r baswr-bariton John Relyea yn chwarae rhannau Philippe II a’r Uchel Chwilyswr, a bydd y bariton Étienne Dupuis yn cwblhau’r prif gast drwy chwarae rhan Rodrigue.

Mae campwaith Verdi yn cael llwyfaniad newydd anferthol gan David McVicar sy’n nodi ei unfed gynhyrchiad ar ddeg i’r Met. Mae hyn yn golygu mai dyma un o’r cyfarwyddwyr mwyaf cynhyrchiol a phoblogaidd yn hanes diweddar y Met.

Gallwch arbed £20 drwy archebu tocyn tymor!

16:00 - Dydd Sadwrn, 26 Mawrth Tocynnau