galeri


Met Opera Live: Rigoletto

image

Mae’r cyfarwyddwr Bartlett Sher, sydd wedi ennill Gwobr Tony, yn edrych o'r newydd mewn ffordd cwbl feiddgar ar drychineb oesol Verdi, gan osod yr opera yn Ewrop yn ystod y 1920au. 


Mae’r bariton Quinn Kelsey, artist awdurdodol sydd ar frig ei yrfa, yn dod â’i bortread tanbaid o’r brif ran i’r Met am y tro cyntaf. Bydd yn perfformio ochr yn ochr â’r soprano Rosa Feola a fydd yn chwarae rhan Gilda a’r tenor Piotr Beczała a fydd yn chwarae rhan Dug Mantua, gyda’r maestro Daniele Rustioni yn arwain.

17:55 - Dydd Sadwrn, 29 Ionawr Tocynnau