galeri


Met Opera Live: Eurydice

image

Mae chwedl hynafol Roegaidd Orpheus, sy’n ceisio harneisio pŵer cerddoriaeth i achub ei annwyl Eurydice o’r is-fyd, wedi ysbrydoli cyfansoddwyr ers dyddiau cyntaf opera.

Mae’r cyfansoddwr disglair o America, Matthew Aucoin, bellach yn dod â’r traddodiad hwnnw i’r 21ain ganrif drwy edrych o’r newydd ar y stori mewn ffordd cwbl hudolus. Mae’r opera yn mynd ati i ddychmygu’r stori gyfarwydd o safbwynt Eurydice ac mae’n cynnwys libreto gan Sarah Ruhl a enillodd “Genius Grant” MacArthur. Mae’r libreto yn addasiad o’i drama lwyddiannus yn 2003.

Cyfarwyddwr Cerdd y Met, Yannick Nézet-Séguin, fydd yn arwain cerddoriaeth atgofus Aucoin a llwyfaniad newydd gan Mary Zimmerman a fydd yn siŵr o’ch cyfareddu. Y soprano Erin Morley fydd yn chwarae’r brif ran, ochr yn ochr â’r bariton Joshua Hopkins a fydd yn chwarae rhan Orpheus a’r uwchdenor Jakub Józef Orliński a fydd yn chwarae rhan ei hunan arall arallfydol.

Gallwch arbed £20 drwy archebu tocyn tymor!

17:55 - Dydd Sadwrn, 4 Rhagfyr Tocynnau