galeri


AWAY (U)

image

FFILM AR GAEL I'W LOGI: 08.02.2021 - 31.03.2021

Rydym yn falch i allu cydweithio hefo Modern Films i gynnig ffilmiau newydd i’w gwylio adref. Fel rhan o’r bartneriaeth, bydd Galeri yn derbyn 50% o incwm llogi’r ffilm (cofiwch ddewis Galeri ar y linc).

Hanes bachgen sydd yn teithio ar draws ynys ar feic modur wrth geisio dianc oddi wrth ysbryd tywyll a dychwelyd adref. Ar y ffordd, mae'n gwneud cyfres o gysylltiadau gyda gwahanol anifeiliaid, ac mae'n ystyried y ffyrdd posib y cyrhaeddodd yr ynys. Dyma ffilm rhannol-freuddwyd rhannol-realiti, yn archwilio ein hangen cyffredin i ddod o hyd i gysylltiad.

Gweithiodd y cyfarwyddwr a'r animeiddiwr, Gints Zilbalodis, ar y ffilm yma am dair blynedd a hanner, yn ysgrifennu'r stori afaelgar, yn creu'r tirweddau a'r cymeriadau hardd drwy animeiddio, ac yn cyfansoddi a recordio'r gerddoriaeth hudol ar gyfer y ffilm syfrdanol heb ddeialog.

Cipiodd y ffilm wobr Contrechamp yng Ngŵyl Ffilmiau Animeiddio Ryngwladol Annecy yn 2019 ac mae’r ffilm wedi derbyn adolygiadau 4 a 5 seren yn rhynwgladol.

Pris llogi: £4.99

Hyd: 75m

I archebu >>>https://greatmodernthings.com/item/away-at-galeri

01:00 - Dydd Mercher, 31 Mawrth Tocynnau


Trêl