galeri


Military Wives: Live Premiere (12A)

image

Am un noson yn unig…

 

Cyfle i fod yn rhan o noson premiere ffilm Military Wives – yn fyw o Leicester Square. Lorraine Kelly fydd yn dod a’r cyfan i sgrîn Galeri o’r carped coch cyn mwynhau’r ffilm.

Wedi’i hysbrydoli gan ffenomen fyd-eang y corau gwragedd milwrol, mae’r stori’n dathlu criw o ferched annhebygol sy’n ffurfio côr ar orsaf filwrol. Wrth i fondiau cyfeillgarwch annisgwyl ffynnu, mae cerddoriaeth a chwerthin yn trawsnewid eu bywydau, gan helpu ei gilydd i oresgyn eu hofnau am anwyliaid sy’n ymladd. Yn fuan maen nhw’n creu gwefr yn y cyfryngau a symudiad byd-eang.

 

Trefn y noson:

18:15 : Drysau ar agor

18:30 : Darllediad byw o’r carped coch (cyfweliadau ayb)

19:15 : Dangosiad y ffilm

 

Bydd y ffilm allan yn genedlaethol o ddydd Gwener, 6ed o Fawrth.

 

Peter Cattaneo | UK | 2020

18:15 - Dydd Llun, 24 Chwefror Tocynnau


Trêl