galeri


Weathering With You (12A)

image

Mae Hodaka yn ei arddegau ac yn dianc o'i gartref anghysbell ar ynys i Tokyo, lle mae'r tywydd yn lawiog a chymylog bob dydd…

 

Yn ddi-gartref a heb ffrindiau, mae'n dod o hyd i waith yn ysgrifennu. Un dydd, mae Hodaka yn cwrdd â Hina – menyw ifanc benderfynol a disglair sydd â sgil hyfryd ac od: y gallu i atal glaw.

 

Dyma ffilm gan Makoto Shinkai sydd yn dilyn Your Name.

 

Ffilm gydag is-deitlau. Dangosid fel rhan o PICS 2020 a cefnogir gan Off y Grid.

 

Makoto Shinkai | Japan | 2019 | 112m

 

Mi fydd y ffilm yn dechrau’n brydlon ar amser. Bydd y drysau yn agor 20 munud cyn amser dechrau’r ffilm. 

Bydd pris tocynnau yn codi £1.50 yr un ar ddiwrnod y dangosiad. Mae pris tocynnau yn cynnwys ffi archebu o 50c y tocyn.

 

 

14:00 - Dydd Sadwrn, 22 Chwefror Tocynnau


Trêl