galeri


David Attenborough: A Life on Our Planet (tbc)

image

Live From the World Premiere

 

Mae un dyn wedi gweld mwy o’r byd natur sydd ar ein planed na neb arall – dyma ffilm ddogfen i brofi hynny…

 

Yn 93 mlwydd oed, mae David Attenborough wedi ymweld â phob un o’r pum cyfandir, gan ddogfennu y cwbwl a dangos y rhyfeddodau hyn i filiynau o bobl ar draws y byd.

 

Rydym yn hynod o falch i allu dangos y ffilm arbennig hwn sydd yn edrych ar y newid sydd wedi bod i’n planed dros y blynyddoedd ar noson y premiere yn Llundain.

 

Fel rhan o’r noson bydd sesiwn holi ac ateb yn dilyn y ffilm - yn fyw o’r Albert Hall, Llundain yng nghwmni’r dyn ei hyn.

 

Noder bydd y darllediad yn dechrau’n brydlon am 19:25 (drysau i agor 19:05).

19:25 - Dydd Iau, 16 Ebrill Tocynnau


Trêl