galeri


Pryd Mae'r Haf?

image

“Bydd e’n gwd. Ti a fi. New start.”

Mae Luke a Christie yn ffrindiau gorau sy’n joio gwersylla, yfed cans a siarad am Julie Bridges.  

Ond gyda’u dyddiau ysgol yn dod i ben a haf hir o’u blaenau, a fydd Luke, Christie a Julie yn dewis llwybrau gwahanol? A yw tyfu’n hŷn yn golygu tyfu ar wahân?

Trosiad newydd i’r Gymraeg gan Gwawr Loader o ‘Christmas is Miles Away’ gan Chloë Moss. Wedi’i osod yng nghymoedd y de ym 1989, dyma ddrama dyner am gyfeillgarwch, gobeithion ac ofnau pobl ifanc ym mhob oes.

Cynhyrchiad Criw Brwd a Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â The Other Room a Theatr Soar.

 

Canllaw oed: 14+

19:30 - Dydd Gwener, 8 Mai Tocynnau