Dangosiad hamddenol – yn addas ar gyfer unigolion sydd yn byw hefo dementia a’u teuluoedd.
Cyfle i fwynhau ffilm o’r archif mewn awyrgylch anffurfiol. Bydd lefel y sain fymryn yn is na’r arfer a bydd ychydig o olau ymlaen yn y sinema drwy gydol y ffilm.
Doris Day yw seren y ffilm yma. Mae Calamity Jane yn mynd i Deadwood, Dakota sydd yn llawn o ddynion, a ddim llawer o ferched. Mae Jane yn gaddo nol perfformwraig o Chicago, i ganu o flaen pawb. Mewn camgymeriad, mae Jane yn dod a’r person anghywir o Chicago, sy’n creu lot o stŵr. Mae’r ddwy ferch – Katie a Jane yn dechrau mynd yn hoff o ddau ddyn yn y dref, ond mae gwifrau croes yn cymhlethu’r broses.
Dewch i hel atgofion, i fwynhau’r ffilm ac i gymdeithasu.
Mi fydd y ffilm yn dechrau’n brydlon ar amser. Bydd y drysau yn agor 20 munud cyn amser dechrau’r ffilm.
11:00 - Dydd Mercher, 9 Ebrill Tocynnau