galeri


TONIC: Elinor Bennet & Nicola Pearce

image

Mae Elinor Bennett yn delynores nodedig ac uchel ei pharch. Ar ôl dilyn gradd yn y Gyfraith, enillodd ysgoloriaeth i astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol gydag Osian Ellis. Mae Elinor yn athrawes telyn poblogaidd, yn ogystal â’i rôl fel Cyfarwyddwraig Artistig Gŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru a Gŵyl Ryngwladol y Delyn yng Ngwlad Thai. Bydd Nicola Pearce yn ymuno ag Elinor, ar y sielo. Enillodd Nicola ysgoloriaeth i astudio yn yr Eidal, yn Academi Gerddorol Chigiana.

 

Perfformiad hamddenol a hygyrch i bawb. Cyflwynir yn ddwy-ieithog. Bydd paned i ddilyn.

14:30 - Dydd Iau, 30 Ebrill Tocynnau