galeri


TONIC: Linda Griffiths

image

Mae Linda Griffiths yn un o wynebau mwyaf cyfarwydd y tirwedd gwerin yng Nghymru.

 

Mae’n gyn-aelod o’r triawd gwerin poblogaidd ‘Plethyn’, efo’i brawd Roy Griffiths a John Gittins o fferm agos ym Maldwyn. Yn y dyddiau ers y triawd, mae Linda wedi perfformio ar ei phen ei hun yn ogystal ac efo’I merched Lisa, Mari a Gwenno sy’n adnabyddus fel y triawd acapela – Sorela.

 

Mae detholiad o’u caneuon ar albwm Olwyn y Sêr – Linda Griffiths a Sorela.

 

Perfformiad hamddenol a hygyrch i bawb. Cyflwynir yn Gymraeg. Bydd paned i ddilyn.

 

14:30 - Dydd Iau, 16 Ebrill Tocynnau