galeri


TONIC: Rhisiart Arwel

image

Yn enedigol o Ddinbych, astudiodd Rhisiart Arwel y gitâr yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y gogledd, Manceinion gyda Gordon Crosskey a John Aran ac yn ddiweddarach gyda Ricardo Iznaola ym Madrid.

 

Mae Rhisiart wedi perfformio’n helaeth ledled Cymru a’r DU - gan gynnwys ymddangosiad yn Neuadd Frenhinol  Albert yn Llundain - ac mae wedi ymddangos yn rheolaidd ar radio a theledu. Mae wedi gweithio fel tiwtor gitâr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd ac wedi ymddangos fel unawdydd gyda Cherddorfa Genedlaethol Cymru'r BBC ar sawl achlysur mewn concertos gan Vivaldi a Rodrigo. Rhyddhaodd Rhisiart gryno ddisg o’r enw ‘Etifeddiaeth’ yn ystod Haf 2018.

 

Bydd Rhisiart yn perfformio gweithiau gitâr poblogaidd o Gymru, Ffrainc, Sbaen a De America yn y cyngerdd yma.

 

Perfformiad hamddenol a hygyrch i bawb. Cyflwynir yn ddwy-ieithog. Bydd paned i ddilyn.

 

14:30 - Dydd Iau, 19 Mawrth Tocynnau