galeri


TONIC: Canolfan Gerdd William Mathias

image

Elinor Bennett yn cyflwyno cyngerdd gan yr oedolion sy’n derbyn hyfforddiant yng Nghanolfan Gerdd William Mathias.

 

Perfformiadau gan Gôr Hamdden Mathias o dan arweiniad Geraint Roberts ac unawdwyr a grwpiau offerynnol amrywiol. Rydym i gyd yn adnabod Elinor fel telynores ryngwladol ond mae hi hefyd wedi ail gydio mewn gwersi lleisiol yn y Ganolfan yn ddiweddar a bydd yn perfformio cân neu ddwy yn y cyngerdd.

 

Perfformiad hamddenol a hygyrch i bawb. Cyflwynir yn ddwy-ieithog. Bydd paned i ddilyn.

14:30 - Dydd Iau, 16 Ionawr Tocynnau