galeri


NT Live: The Welkin (15)

image

Un bywyd yn nwylo 12 o ferched.

 

Cefn gwlad Suffolk yn Lloegr, 1759. Wrth i’r wlad ddisgwyl am gomed Halley, caiff merch ifanc ei dedfrydu am lofruddiaeth erchyll.

 

A hithau’n honni ei bod yn feichiog, mae 12 metron yn gadael eu gwaith i fynd ar reithgor i benderfynu a yw’n dweud y gwir ai peidio, neu’n ceisio osgoi cael ei chrogi. Gyda dim ond y fydwraig Lizzie Luke yn fodlon amddiffyn y ferch, y dorf yn gweiddi am ei gwaed y tu allan, mae’r 12 metron yn ymgodymu â’u hawdurdod newydd, a’r diafol yn eu plith.

 

Bydd James Macdonald (Who's Afraid of Virginia Woolf?) yn cyfarwyddo Maxine Peake (The Theory of Everything, Funny Cow) a Ria Zmitrowicz (Three Girls, Mr. Selfridge) yn y ddrama gyffrous ac iasol hon gan yr awdur Lucy Kirkwood (Chimerica, Skins) a enwebwyd ar gyfer Gwobr Tony.

 

Cynhyrchiad National Theatre Live sydd yn cael ei ddarlledu’n fyw o Llundain..

19:00 - Dydd Iau, 21 Mai Tocynnau