galeri


NT Live: Cyrano de Bergerac (15)

image

Mae James McAvoy (X-Men, Atonement) yn dychwelyd i’r llwyfan mewn addasiad newydd dyfeisgar o Cyrano de Bergerac, sy’n cael ei ddarlledu’n fyw i sinemâu o’r West End yn Llundain.

 

Yn saer geiriau ac yn gleddyfwr medrus, mae’r cyfan gan Cyrano - oni bai am ennill calon y ferch y mae'n ei garu, Roxane. Ond mae un broblem fawr: mae ei drwyn mor fawr â’i galon. A fydd cymdeithas sy’n addoli ei hun yn cael y gorau o Cyrano - neu a all ei ddawn i drin geiriau ennill calon Roxane?

 

Mae campwaith Edmond Rostand wedi’i addasu gan Martin Crimp, a’i gyfarwyddo gan Jamie Lloyd (Betrayal). Bydd y ddrama glasurol hon yn dod yn fyw drwy ei hiaith grefftus sy’n darlunio cariad angerddol Cyrano at Roxane er gwaethaf popeth.

 

Cynhyrchiad gan National Theatre Live.

19:00 - Dydd Iau, 20 Chwefror Tocynnau