Mae Bex yn hanner cant a phump oed, wedi cael llond bol ac yn brysur ruthro o gwmpas. Mae Heidi i fod yn gynorthwy-ydd iddi.
Wedi’i gosod mewn siop trin gwallt a welodd ddyddiau gwell, mewn tref yng Ngogledd Lloegr, dyma gipolwg gonest a doniol iawn ar yr hyn sy’n digwydd mewn salon gwallt rhwng y clebran, y golchi a’r sychu a’r cyrlio.
Cafodd y ddrama ei chomisiynu’n wreiddiol ar gyfer cwmni Hull Truck Theatre ac fe’i hysgrifennwyd gan enillydd gwobr BAFTA, y dramodydd Jane Thornton.
Canllaw oed: 14+
19:30 - Dydd Sadwrn, 18 Ebrill Tocynnau