galeri


Jamie Smith’s Mabon + Gwen Màiri

image

Bydd Mabon yn rhoi'r ffidil (a'r accordion) yn y to hydref nesa. Bu'n ugain mlynedd cyffrous, llawn cyngherddau cofiadwy ac mae’r band yn falch o gyhoeddi hefyd mai ymddeoliad urddasol yw hwn, nid chwalu'r band: mae'n bryd am gyfeiriad newydd i rai ohonom ni, a phwyslais gwahanol i eraill. Tra ein bod ni yn Galeri yn dymuno'r gorau iddyn nhw, mae gennym ni atgofion melys o'u sioeau niferus yma hefyd. ac yn edrych ymlaen at yr un hwrê olaf hwn gyda chefnogaeth gan y delynores Gwen Màiri yng nghwmni Gwilym Bowen Rhys a Jordan Price Williams.

19:30 - Dydd Iau, 20 Chwefror Tocynnau